Mae pobol wedi dechrau ymgynnull yn y Capitol yn Arizona i ffarwelio â’r gwleidydd John McCain.

Fe fydd ei gorff yn cael ei arddangos yn dilyn seremoni breifat, lle mae disgwyl i nifer o wleidyddion dalu teyrnged iddo yn dilyn ei farwolaeth ddydd Sadwrn o ganser yr ymennydd, ac yntau’n 81 oed.

Ar ôl y seremoni, fe fydd ei gorff yn gorwedd yn gyhoeddus yn y Capitol cyn ei angladd ddydd Gwener.

Fe fu’n cynrychioli talaith Arizona ers dechrau’r 1980au, yn y Gyngres yn y lle cyntaf ac yna’n Seneddwr.

O’r Capitol, fe fydd ei gorff yn cael ei symud trwy Phoenix ar gyfer gwasanaeth coffa, lle mae disgwyl i’r cyn ddirprwy arlywydd, Joe Biden dalu teyrnged iddo.

Ar ôl y gwasanaeth hwnnw, fe fydd ei gorff yn symud o Arizona i’r Capitol, gydag un gwasanaeth coffa olaf yn Washington.