Fe fydd llong ofod yn hedfan yn nes at yr haul nag erioed o’r blaen fel rhan o daith ddiweddaraf Nasa.

Gadawodd y llong ofod o Cape Canaveral fore heddiw, ac fe fydd yn teithio o fewn 3.8 miliwn milltir i wyneb yr haul.

Fe fydd yn hedfan heibio’r blaned Gwener ym mis Hydref, a thuag at yr haul y mis canlynol.

Mae disgwyl i’r llong ofod deithio’n agos at yr haul 24 o weithiau dros y saith mlynedd nesaf.