Mae 10 o bobol yn yr ysbyty yn dilyn achos o saethu yn ardal Moss Side ym Manceinion.

Cafodd heddlu arfog eu galw am 2.30 fore heddiw, a dod o hyd i nifer o bobol wedi’u hanafu.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pa mor ddifrifol yw eu hanafiadau, ond mae nifer o blant yn eu plith.

Roedd nifer sylweddol o bobol yn yr ardal yn dilyn carnifal Caribïaidd, oedd wedi dod i ben nifer o oriau cyn y digwyddiad.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod pam fod y bobol wedi cael eu saethu, a phwy yn union oedd ynghlwm.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.