Mae o leiaf dri o bobol wedi’u lladd ar ôl i ail ddaeargryn mewn llai nag wythnos daro ynys Lombok yn Indonesia.

Cafodd 16 o bobol eu lladd gan y daeargryn cyntaf ar Fehefin 29, oedd wedi arwain at rybudd am tswnami hefyd.

Fe fu’n rhaid i nifer o bobol adael eu cartrefi a symud i dir uwch, wrth i’r ynys golli eu cyflenwadau trydan.

Yn ôl arbenigwyr, roedd y daeargryn yn mesur 7.0 ar raddfa Richter.

Roedd effeithiau’r daeargryn i’w teimlo ar ynys Bali hefyd.