Mae o leiaf 19 o bobol wedi marw, ac mae dwsinau ar goll, ar ôl i argae ddŵr dorri yn ne-ddwyrain Laos ddydd Llun.
Collodd mwy na 6,000 o bobol eu cartrefi yn dilyn y digwyddiad.
Ddydd Mawrth, roedd adroddiadau bod cannoedd o bobol yn dal ar goll.
Erbyn heddiw, daeth cadarnhad fod nifer y meirw wedi codi wrth i bobol geisio ffoi i lefydd diogel, gan gynnwys toeon tai.
Mae hofrenyddion a chychod yn cael eu defnyddio i achub pobol o’r ardal.
Daeth gweithwyr o hyd i drafferthion yn yr argae ddydd Gwener ond doedden nhw ddim wedi gallu cwblhau gwaith atgyweirio oherwydd glaw trwm, ac fe waethygodd y sefyllfa dros y penwythnos.
Mae’r awdurdodau lleol yn galw am gymorth dyngarol brys.