Mae arlywydd Nicaragwa yn gwrthod cynnal etholiadau y wlad ynghynt – a hynny er bod protestiadau ar y strydoedd yn gyfrifol am 300 o farwolaethau yn y tri mis diwethaf.
Mae Daniel Ortega yn gwadu mai ef sy’n rheoli’r grwpiau parafilwrol sy’n gyfrifol am am y lladd.
Mewn cyfweliad gyda Fox News ddydd Llun (Gorffennaf 23) mae’r arlywydd yn dweud mai ei wrthwynebwyr gwleidyddol sy’n gyfrifol am y lladd.
“Fe gawson ni ein hethol gan y bobol,” meddai Daniel Ortega. “Does yna ddim etholiad arall i fod tan 2021… a bryd hynny, fe gawn ni weld pwy fydd yn cael eu hethol ar gyfer cynnal gweinyddiaeth newydd.”
Mae’r arlywydd hefyd yn gwadu cyfrifoldeb am ymosodiadau ar yr Eglwys Babyddol. Mae nifer o offeiriaid ac adeiladau wedi bod yn dargedau yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Yr wythnos ddiwethaf, mewn araith i nodi pen-blwydd chwyldro Nicaragwa, fe gyhuddodd Daniel Ortega yr esgobion Pabyddol o weithio gyda’r rheiny oedd am ei ddisodli.