Mae senedd yr Aifft wedi pasio mesur yn targedu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol poblogaidd y mae awdurdodau yn eu cyhuddo o gyhoeddi “newyddion ffug”.
Dyma’r diweddaraf mewn ymgyrch bum mlynedd i atal anghydfod yn y wlad, a thawelu ffynonellau newyddion annibynnol.
Fe ddaeth y mesur yn ddeddf yn hwyr nos Lun, wrth i siambr gefnogol o’r llywodraeth bleidlesio o’i blaid.
O dan y gyfraith newydd, mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol personol gyda mwy na 5,000 o ddilynwyr yn cael eu hadnabod fel “canolfannau cyfryngau”, ac mae gan yr awdurdodau hawliau i’w rhwystro os ydyn nhw’n cael eu hamau o “gyhoeddi newyddion ffug”.
Mae’r term ‘newyddion ffug’ yn agored i gael ei ddehongli, a does dim diffiniad swyddogol wedi’i gynnig.