Mae disgwyl y bydd yr ymdrech i achub grŵp o fechgyn a’u hyfforddwr pêl-droed sy’n sownd mewn ogof yng Ngwlad Thai yn parhau heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 9).
Mi gafodd pedwar bachgen eu cludo i’r wyneb ddoe, a hynny mwy na phythefnos ar ôl iddyn nhw fynd yn sownd yn yr ogof yn nhalaith Chiang Rai.
Yn ôl y swyddog o’r wlad sy’n arwain y tîm achub – sy’n cynnwys deifwyr o wledydd Prydain – mae’r ymdrech wedi mynd yn “well na’r disgwyl”, gyda’r bechgyn mwya’ iachus wedi cael eu cludo o’r ogof yn gynta’.
Mae’r awdurdodau wedi dweud bod disgwyl i gam nesa’ yr achub ddechrau yn ystod y 10 awr nesa’.
Mae glaw trwm wedi bod yn yr ardal trwy gydol y nos, ac mae disgwyl rhagor o stormydd trwy gydol yr wythnos.
Mae meteorolegwyr wedi amcyngyfri’ bod yna 60% o debygrwydd am law yn ardal Chiang Rai heddiw.
Dau aelod o Gymru
Mae dau aelod o dîm achub yng Nghymru ymhlith y deifwyr oedd wedi dod o hyd i’r grŵp yn yr ogof.
Aelodau o Dîm Achub Ogof De a Chanolbarth Cymru yw Rick Stanton a John Volanthen, ac yn cael eu cyfri’ ymhlith deifwyr gorau’r byd.
Daw Rick Stanton, sy’n ddiffoddwr tân, o Coventry, tra bo John Volanthen yn arbenigwr mewn Technoleg Gwybodaeth o Fryste.