Mae merch 3 oed wedi marw yn yr Unol Daleithiau, ar ôl cael ei thrywanu yn ystod ei pharti pen-blwydd.

Cafodd naw o bobol eu trywanu yn ystod yr ymosodiad, a ddigwyddodd mewn bloc fflatiau sy’n gartref i sawl teulu o ffoaduriaid.

Roedd y bobol a oedd yn darged yr ymosodiad yn hanu o Irac, Syria ac Ethiopia; ac roedd chwech o blant yn eu plith.

Bellach mae dyn o’r Unol Daleithiau, Timmy Kinner, wedi ymddangos gerbron llys, wedi’i gyhuddo o lofruddio.

Yn ôl awdurdodau, roedd Timmy Kinner yn byw yn y bloc fflatiau ar un adeg, ond bu’n rhaid iddo adael yn ddiweddar oherwydd ei ymddygiad.

Dyw awdurdodau Idaho ddim yn credu mai trosedd gasineb oedd yr ymosodiad.