Fe fu mwy na 1,000 o bobl yn gorymdeithio drwy brifddinas Maryland yn yr Unol Daleithiau neithiwr i gofio’r pump o bobl a gafodd eu lladd mewn swyddfa bapur newydd.

Roedd y pedwar newyddiadurwr a’r swyddog gwerthiant yn ystafell newyddion The Capital Gazette yn Annapolis pan dorrodd saethwr i mewn ac a thanio ar bawb a welai.

Mae Jarrod W Ramos wedi cael ei gyhuddo o bum llofruddiaeth.

Mae’n ymddangos fod ganddo elyniaeth at y papur ers 2012 ar ôl i stori gael ei chyhoeddi amdano’n aflonyddu ar ddynes, ond roedd ditectif wedi dod i’r casgliad nad oedd yn unrhyw fygythiad.