Bydd y fyddin yn aros ar Saddleworth Moor ger Manceinion drwy’r penwythnos i helpu diffodd y tanau anferthnol ar y mawndir.

Mae 100 o filwyr o’r Alban wedi bod yno ers dydd Iau, yn helpu diffoddwyr tân Manceinion. Y cytundeb gwreiddiol oedd y byddai’r fyddin yno am 48 awr, ond fe fyddan nhw’n aros am dri diwrnod ychwanegol ar gais Maer Manceinion, Andy Burnham.

“Mae’n debyg mai dyma’r wythnos brysuraf yn hanes gwasanaeth tân ac achub Manceinio, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddyn nhw,” meddai.

“Gan ein bod yn credu y bydd angen niferoedd mawr o bobl i helpu, fe wnaethom gais i’r llywodraeth am ymestyn y cymorth milwrol.”

Mae saith milltir sgwâr o dir rhwng Tameside ac Oldham wedi llosgi’n ulw, gyda mwg a lludw’n gorchuddio ardal eang o amgylch Manceinion.