Mae naw o bobol wedi cael eu lladd Nigeria, wrth i lori sy’n cario olew fynd ar dân.
Yn ôl yr awdurdodau yn Nigeria, fe fu’r digwyddiad ar bont yn ninas Lagos yn ne’r wlad.
Mae’n debyg bod un plentyn ymhlith y rheiny a gafodd eu lladd, ac mae pedwar arall wedi’u hanafu wrth i 54 o gerbydau fynd ar dân.
Does dim gwybodaeth wedi’i chadarnhau eto ynglŷn ag union achos y digwyddiad.