Pacistan
Cafodd pedwar o blant a gyrrwr bws ysgol eu saethu’n farw ym Mhacistan gan aelodau o’r Taliban oedd yn dial am fod na wrthwynebiad iddyn nhw.

Cafodd o leia 14 o blant eraill a dwy athrawes eu hanafu yn yr ymosodiad yn Matani ar gyrion dinas Peshawar.

Mae dau arweinydd llwythi lleol yn Matani wedi bod yn ceisio atal grwpiau milwriaethus rhag

dod o’r ardaloedd sy’n ffinio Affganistan. Mae nhw’n cael cymorth gan y llywodraeth i’w helpu yn yr ymdrech ac mae nhw wedi lladd a chaethiwo nifer o filwriaethwyr dros y deunaw mis diwethaf.

Ond mae nhw a’u teuluoedd wedi cael eu targedu gan y milwriaethwyr, a oedd yn rheoli’r ardal hyd at dair blynedd yn ôl.

Dywedodd llefarydd ar ran y Taliban ym Mhacistan bod yr ymosodiad wedi “dysgu gwers” iddyn nhw ac y bydden nhw’n parhau i gynnal ymosodiadau.