Mae darnau bach o wastraff plastig a malurion eraill wedi’u canfod ym mhob cregyn gleision a samplwyd o amgylch arfordir ac archfarchnadoedd y Deyrnas Unedig, yn ôl ymchwilwyr.
Mewn samplau o gregyn gleision gwyllt o wyth lleoliad arfordirol ledled gwledydd Prydain a’r rhai a brynwyd o wyth archfarchnad ddienw, canfuwyd bod 100% yn cynnwys microblastigion neu falurion eraill fel cotwm a reion.
Mae halogiad “sylweddol a chyffredin” gan ficroplastigion a malurion eraill o weithgarwch dynol mewn samplau dwr môr arfordirol, cregyn gleision arfordirol a chregyn gleision a brynwyd gan archfarchnad yn y Deyrnas Unedig, dywedodd yr astudiaeth.
Dywedodd gwyddonwyr o Brifysgol Hull a Phrifysgol Brunel Llundain fod y canlyniadau’n dangos bod y defnydd o ficroplastigion gan bobol sy’n bwyta bwyd môr yn y Deyrnas Unedig yn debygol o fod yn “gyffredin ac eang”.
Mae pob 100g o gregyn gleision sy’n cael eu bwyta yn cynnwys tua 70 darn o falurion, yn ôl yr ymchwilwyr.
Mae eu hastudiaeth yn cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn, Environmental Pollution, lle maen nhw’n argymell bod angen rhagor o ymchwil i ddarganfod beth yw goblygiadau cymryd y symiau bach o ficroblastig.