Dywed bron i 95% o fenywod bod effaith helaeth triniaeth canser y fron wedi eu hatal rhag cael rhyw.
Mae wyth o bob deg (79%) o ferched sy’n cael diagnosis o ganser y fron yn dweud eu bod yn anhapus â’u bywyd rhyw ar ôl y clefyd, yn ôl canfyddiadau Breast Cancer Care.
Mae hyn yn cynnwys 83% o’r rhai a gafodd ddiagnosis dair blynedd neu fwy yn ôl, gan nodi bod menywod yn parhau i frwydro am amser hir.
O’r 843 o ferched a arolygwyd gan yr elusen, adroddodd y mwyafrif (94%) bod sgil effaith o driniaeth canser y fron – gan gynnwys llawdriniaeth, cemotherapi a therapïau hormonau (gan gynnwys tamoxifen) – wedi eu hatal rhag cael rhyw.
Y ffigurau
Mae rhai o brif sgîl-effeithiau’r driniaeth sydd wedi atal menywod rhag cael rhyw yn cynnwys colli libido (58%), hunan-barch isel (47%) a sychder y fagina (45%).
Mae mwy na dwy ran o dair (68%) o fenywod â chanser y fron yn dweud na chawsant wybod am yr effaith bosibl y driniaeth ar ryw ac agosatrwydd, ac ni chafodd tri chwarter (76%) y gefnogaeth roedd eu hangen arnynt gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
“Mae’r ffigurau trallodus hyn yn paentio darlun anhygoel o’r realiti bob dydd ar gyfer menywod di-ri sydd â chanser y fron, y mae eu perthynas a’u bywydau rhyw yn cael eu rhoi naill ochr – weithiau’n barhaol,” meddai Samia al Qadhi, prif weithredwr Breast Cancer Care.
“Gall mynd trwy driniaeth ar gyfer canser y fron fod yn hollol drawmatig a gall sgîl-effeithiau barhau am flynyddoedd.
“Bob dydd rydym yn clywed gan ferched sy’n cael trafferth â chreithiau dramatig, colli gwallt, a newidiadau corfforol, sy’n gallu chwalu hyder a gwneud rhyw yn anghyfforddus, gan ei wneud yn anodd iawn cael bywyd rhywiol boddhaol.”