Mae dyn 87 oed wedi marw mewn cartref i’r henoed yn yr Unol Daleithiau ar ôl syrthio i’w farwolaeth wrth ddringo o ffenest ar drydydd llawr yr adeilad.

Yn ôl yr heddlu, mae lle i gredu bod William Strasner o Buffalo, Efrog Newydd, yn ceisio dianc o’r lle, trwy greu rhaff allan o ddillad gwely.

Fe gafodd ei ddarganfod gan aelod o staff, a hynny ar ôl iddo syrthio 30 troedfedd o ffenest ar drydydd llawr y cartref.

Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, dyw ffenestri’r cartref ddim fynychaf yn agor mwy na saith modfedd, ond mae’n ychwanegu bod allwedd i agor y ffenest ar goll.

Mae swyddogion y dalaith a’r sir yn parhau i ymchwilio.