Fe fydd staff sy’n gweithio mewn cartrefi nyrsio a gofal oedolion yn derbyn brechiad ffliw yn rhad ac am ddim gan y Gwasanaeth Iechyd y gaeaf nesa’, yn ôl Llywodraeth Cymru
Hyd yma, cyflogwyr unigol oedd yn gyfrifol am gynnig brechiad ffliw i staff gofal cymdeithasol, ond yn ystod gaeaf 2018-19 mi fydd y brechiad ar gael am ddim mewn fferyllfeydd cymunedol y Gwasanaeth Iechyd i staff gofal cymdeithasol.
Daw hyn, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn sgil ffigyrau sy’n dangos bod yna 71 adroddiad am achosion o’r ffliw wedi bod yn ystod y gaeaf diwetha’, gyda 42 o’r rheiny (60%) mewn cartrefi gofal.
Maen nhw hefyd yn dweud bod astudiaethau wedi dangos mai nifer isel o’r staff mewn cartrefi gofal sy’n derbyn brechiad rhag y ffliw.
Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu felly wedi argymell y dylai gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol gael brechiad am ddim, gan amddiffyn, yn y pen-draw, gleifion a phreswylwyr hefyd.
Paratoi
“Wrth inni baratoi ar gyfer tymor y ffliw bob blwyddyn, mae’n bwysig sicrhau bod y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithaso mor gadarn â phosib er mwyn eu galluogi i ddygymod yn well â phosib er mwyn eu galluogi i ddygymod yn well â’r pwysau tymhorol eithriadol,” meddai Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd.
Yn ystod y gaeaf nesa’, mi fydd y cynllun brechu hefyd yn cael ei ymestyn i gynnwys plant sydd ym mlynyddoedd ysgol 5 a 6.
Bydd hyn yn golygu bod pob plentyn o oedran cynradd yng Nghymru yn gymwys i gael y brechiad am ddim.