Mae 25 o bobol wedi’u lladd ac ugain wedi’u hanafu ar ôl i losgfynydd yn Gwatemala ffrwydro, meddai’r awdurdodau yno.

Mae’n debyg bod nifer o bobol yn dal ar goll ar ôl i losgfynydd Volcan del Fuego ffrwydro ddydd Sul. Mae’r llosgfynydd tua 27 milltir o Ddinas Gwatemala.

Bu farw pedwar o bobol ar ôl i’r lafa roi tŷ ar dan a chafodd dau blentyn eu llosgi i farwolaeth wrth sefyll ar bont i wylio’r ffrwydrad.

Cafodd nifer o gyrff hefyd eu darganfod yng nghymuned San Miguel Los Lotes.

Mae tua 300 o bobol wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi mewn pentrefi gerllaw wrth i lwch a mwg dasgu i’r awyr.