Mae dynes a llanc 19 oed wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn 39 oed yn ardal Y Rhath yng Nghaerdydd dros wythnos yn ôl.
Cafodd Damian Hill anafiadau angheuol yn dilyn ymosodiad arno yn Stryd Oakfield yn Y Rhath tua 2.20yb ddydd Sul diwethaf.
Cafodd Damian Hill, o ardal Adamsdown, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ond bu farw o’i anafiadau.
Mae Kalib Steven Facey, 19, a Philomena McDonagh, 33, wedi cael eu cyhuddo o’i lofruddio ac o ddwyn.
Fe fydd y ddau yn mynd gerbron Ynadon Caerdydd bore dydd Llun.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am dystion i’r ymosodiad. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Daclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1800189067.