Mae newyddiadurwr Rwsiaidd wedi ymddangos yn fyw ac yn iach mewn cynhadledd newyddion, lai na 24 awr wedi i heddlu adrodd ei fod wedi’i saethu’n farw.

Bellach mae Arkady Babchenko yn byw yn y Wcrain, ac mae’n ymddangos fod cudd wasanaeth y wlad wedi ffugio’i farwolaeth, er mwyn rhwystro cynllwyn i’w ladd.

Mae’r newyddiadurwr yn feirniadol tu hwnt o’r Kremlin, a chred yr awdurdodau yw bod cudd wasanaeth Rwsia wedi talu dyn i’w ladd.

“Dw i dal yn fyw,” meddai yn y gynhadledd, cyn ymddiheuro i’r ffrindiau ac i’w deulu a oedd yn galaru amdano.

Fe symudodd Arkady Babchenko i Kiev ar ôl derbyn bygythiadau i’w fywyd yn Rwsia, ac mae’n debyg fod y bygwth wedi parhau yn ei wlad fabwysiedig.