Mae un o weinidogion Ffrainc wedi rhybuddio gwledydd Ewrop rhag ymddwyn fel “gweision” i’r Unol Daleithiau.
Daw sylw’r Gweinidog Cyllid, Bruno Le Maire, yn sgil penderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau i gefnu ar gytundeb niwclear Iran.
Dadl Donald Trump yw bod y ddêl yn rhy wan, ond dyw arweinyddion Ewrop ddim yn gweld llygad yn llygad ag ef tros y mater.
Mae cwmnïoedd Ewropeaidd – yn ogystal â rhai Americanaidd – yn elwa o’r fargen hon.
Dylai gwledydd Ewrop flaenoriaethu eu “diddordebau economaidd” hwythau, meddai Bruno Le Maire, yn hytrach nag “ufuddhau” a dilyn penderfyniadau’r Unol Daleithiau.
Bydd yr Unol Daleithiau’n bwrw ati yn awr i ailgyflwyno sancsiynau ar Iran.