Mae’r cyfryngau yn Syria yn adrodd fod Israel wedi ymosod ar ganolfan filwrol ger Damascus.

Fe ddaeth yr ymosodiad wedi i arlywydd America, Donald Trump, gyhoeddi ei fod yn tynnu allan o ddêl niwclear Iran, gan alw llywodraeth Tehran yn “allforiwr brawychiaeth”.

Yn ol asiantaeth newyddion Sana yn Syria, fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ardal wledig Kiswah, i’r de o’r brifddinas, Damascus, ardal lle mae yna nifer o ganolfannau milwrol.

Mae gorsafoedd teledu wedi adrodd am gyfres o ffrwydriadau yn yr ardal.