Mae Arweinydd Gogledd Corea Kim Jong Un wedi camu i Dde Corea am y tro cyntaf i gwrdd â’r Arlywydd Moon Jae-in ar gyfer uwchgynhadledd hanesyddol.
Dyma’r tro cyntaf i arweinwyr y ddwy wlad gwrdd ers mwy na degawd.
Fe fyddan nhw’n trafod arfau niwclear Gogledd Corea.
Ar ôl cyfarch ei gilydd aeth y ddau arweinydd i’r Tŷ Heddwch ar gyfer y trafodaethau.
Maen nhw wedi cwrdd â dirprwyaeth ei gilydd o’r ddwy wlad, sy’n cynnwys chwaer Kim Jong Un, Kim Yo Jong.
Mae’r Tŷ Gwyn yn Washington wedi dweud ei fod yn obeithiol y bydd yr uwchgynhadledd rhwng y ddau arweinydd yn gam tuag at heddwch.
Daw’r sylwadau ychydig wythnosau cyn i drafodaethau gael eu cynnal rhwng Kim Jong Un ac Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump.