Mae 12 o blant wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bws ysgol a thrên yn nhalaith Uttar Pradesh yn India.
Yn ol adroddiadau. roedd gyrrwr y bws wedi anwybyddu signal y giard i stopio. Fe gafodd y gyrrwr hefyd ei ladd yn y digwyddiad.
Roedd y plant, rhwng 5 a 14 oed, ar eu ffordd i’r ysgol, ac wedi cael eu codi o nifer o bentrefi bychain.
Mae damweiniau yn gyffredin ar ffyrdd ac ar reilffyrdd India, gyda thau 23 miliwn o bobol yn defnyddio tua 11,000 o drenau yn ddyddiol.
Mae croesfannau heb gatiau hefyd yn gyffredin, yn enwedig yng nghefn gwlad.