Mae dyfeisiwr o Ddenmarc wedi’i gael yn euog lofruddio gohebydd yn ystod taith mewn llong danfor.

Bydd Peter Madsen, 47,  yn treulio o leia’ 16 blynedd dan glo, ond mae’n bwriadu apelio yn erbyn y cyhuddiad a’r ddedfryd.

Aeth y dyfeisiwr â Kim Wall, 30, ar daith yn ei gerbyd tanfor ar Awst 10.

Roedd y ddynes yn hanu o Sweden ac wedi gobeithio cyfweld yr entrepreneur.

Er iddo fynnu yn wreiddiol bod y ddynes wedi marw ar ddamwain, cyfaddefodd yn ddiweddarach ei fod wedi cyflawni’r weithred.

Roedd wedi ei thorri’n ddarnau, a rhannau o’i chorff wedi’u taflu i’r Môr Baltig.