Mae rhiant o Fro Morgannwg yn wynebu gorfod talu £100 yr wythnos am wersi Cymraeg i’w phlentyn gan ei bod yn “rhy fedrus” yn yr iaith.

Mae’r ferch yn ddisgybl yn Ysgol Stanwell, Penarth, ac yn gobeithio astudio Cymraeg fel un o’i phynciau TGAU.

Ond yn ôl ei rhiant, mae’r ysgol wedi gwrthod gadael iddi astudio TGAU Cymraeg Ail Iaith yno, gan ei bod “yn rhy dda”, ac felly mae rheolau Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru (y bwrdd arholi) yn ei rhwystro rhag gwneud hynny.

Dyw’r ysgol cyfrwng Saesneg ddim yn darparu cwrs TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf – dim ond cwrs Ail Iaith – ac mae hyn wedi achosi penbleth i rieni’r disgybl.

“Yr unig opsiwn”

“Ar hyn o bryd, yr unig opsiwn sydd gennym ni, yw bod ni’n cael tiwtor preifat,” meddai’r rhiant sydd am aros yn anhysbys, wrth golwg360. “Does dim opsiwn arall – heblaw ei bod hi eisiau colli TGAU.

“Byddai’n rhaid i nifer y gwersi tiwtor fod gyfwerth â nifer y gwersi sy’n cael eu cynnal yn yr ysgol. Ac mae hynna’n tua phedwar gwers yr wythnos. A chost tiwtor yw tua £25 yr awr – £100 yr wythnos.

“… Dw i’n mynd i herio hyn. Achos ar ddiwedd y dydd, mae angen delio â’r mater. R’yn ni wedi gwastraffu bron i flwyddyn yn barod. Bydd y flwyddyn ysgol yn dod i ben ym mis Gorffennaf.”

Mae’n ategu bod hi methu “fforddio’r fath yna o gostau” a’n ymwybodol bod angen tiwtor a allai ddysgu ei merch i safon TGAU gradd uchel.

Tynnu sylw

Mae’r rhiant yn dweud ei bod wedi cysylltu â’r ysgol a CBAC, a’n nodi nad yr ysgol wnaeth dynnu ei  sylw at y broblem.

Yn ogystal, does ganddi ddim amheuaeth bod cyn-ddisgyblion o’r ysgol wedi wynebu’r un broblem. “Mae’n rhaid bod hyn wedi digwydd i blant eraill,” meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn i’r ysgol a CBAC am ymateb.