Mae cyn-Arlywydd Armenia wedi cael ei ddewis yn Brif Weinidog ar y wlad – a hynny er gwaetha’ protestiadau.
Pleidleisiodd Senedd Armenia o blaid y penodiad ddydd Mawrth wrth i brotestwyr feddiannu’r tir y tu allan i’r adeiladau seneddol.
Fe fu’n rhaid i Serzh Sargsyan roi’r gorau i fod yn Arlywydd ar ôl deng mlynedd yn y swydd – dyna’r terfyn cyfreithlon – ac mae’r protestwyr yn gweld hyn fel ffordd o barhau’n Arlywydd ar y slei.
Fe fyddai’n dilyn esiampl Vladimir Putin yn Rwsia, a fu’n Bridf Weinidog am gyfnod, er mwyn osgoi cyfyngiadau cyfansoddiadol.
Mae penodiad Serzh Sargsyan yn cyd-ddigwydd â newid i sustem wleidyddol y wlad, sy’n golygu bydd gan y Prif Weinidog fwy o awdurdod na’r Arlywydd.