Mae miloedd o bobol wedi bod yn cymryd rhan mewn gorymdaith yn galw am ddeddfu ar ddryllau yn dilyn cyfres o ymosodiadau diweddar yn yr Unol Daleithiau.
Gobaith trefnwyr ‘March For Our Lives’ yn Washington oedd efelychu’r gorymdeithiau a gafwyd y llynedd o blaid hawliau i ferched.
Ymhlith sloganau’r orymdaith mae ‘Ni yw’r Newid’ a ‘Dim Rhagor o Dawelwch’, ac mae’r dorf wedi bod yn ymgasglu ar hyd Pennsylvania Avenue ger y Capitol.
Mae’r Arlywydd Donald Trump yn Fflorida am y penwythnos.
Myfyrwyr
Fe fu myfyrwyr yn protestio ers cyflafan yn ysgol uwchradd Marjory Stoneman Douglas yn ardal Parkland yn Fflorida.
Gobaith y protestwyr yw cyflwyno neges y myfyrwyr yn glir cyn yr etholiadau hanner tymor eleni.
Fe fu digwyddiad ar raddfa lai ger yr ysgol heddiw i godi ymwybyddiaeth.
Yn ôl pôl piniwn diweddar, roedd 69% o Americanwyr o blaid rheolau llymach ar ddryllau – i fyny o 61% yn 2016 ac o 55% yn 2013.
Mae 90% o Ddemocratiaid o blaid rheolau llymach ond dim ond 50% o Weriniaethwyr sy’n cytuno.
Ond mae oddeutu hanner yr Americanwyr a gafodd eu holi’n credu na fydd camau newydd yn cael eu cyflwyno.