Mae 30% o awyrennau Ffrainc wedi’u llorio, a dim ond 40% o’r trenau cyflym sy’n rhedeg heddiw, wrth i aelodau dwsinau o undebau gynnal protestiadau ar strydoedd y wlad.
Mae arweinydd undeb CFDT, Laurent Berger, yn dweud fod y streiciau diweddaraf yn “rhybudd” i lywodraeth Emmanuel Macron, fod gweision sifil yn haeddu gwell cyflogau ac amodau gwaith.
Maen nhw hefyd yn protestio yn erbyn colli 120,000 o swyddi rhwng nawr a 2022.
Mae gweithwyr y cwmni rheilffordd cenedlaethol, SNCF, yn gwrthod cynllun gan y llywodraeth i ad-drefnu’r cwmni cyn bod disgwyl iddo gystadlu am waith mewn proses agored yn erbyn cwmnïau eraill.