Fe gafodd arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, “sgwrs ddidwyll” gyda swyddogion o Dde Korea, yn ôl y cyfryngau yn y Gogledd.

Dyma’r tro cyntaf i swyddogion o Dde Corea gyfarfod â’r arweinydd ifanc ers iddo gymryd yr awenau yn 2011 yn dilyn marwolaeth ei dad.

Dyma hefyd yr arwydd ddiweddaraf bod y ddwy wlad yn ceisio gwella eu perthynas, a hynny ar ôl blwyddyn o densiynau sydd wedi deillio o gynllun niwclear y Gogledd.

Yn ôl cyfryngau’r Gogledd, sy’n cael eu rheoli gan y wladwriaeth, fe ddywedodd Kim Jong Un mewn cinio neithiwr ei fod yn awyddus i “ysgrifennu hanes newydd o uno” ar ynys Corea.

Mae De Corea hefyd wedi cadarnhau bod y ginio hon wedi para am tua bedair awr.

Amheus o fwriad y Gogledd

Er gwaetha’r sylwadau cadarnhaol o du’r Gogledd, mae nifer yn amheus pa un a fyddai’r camau cymodlon rhwng y ddwy Corea yn arwain at heddwch parhaol.

Yn ôl barn rhai, bwriad y Gogledd yw gwella’r berthynas gyda’r De mewn ymgais i liniaru’r sancsiynau rhyngwladol sydd wedi’i osod yn ei herbyn – ynghyd â gwella’r darlun o Kim Jong Un yn ei wlad ei hun.

Ond yn ôl eraill wedyn, mae pob datblygiad cadarnhaol, a gychwynnodd gyda’r cydweithio rhwng y ddwy wlad yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf fis diwethaf, yn dangos bod modd cael heddwch ar ynys Korea – a hynny yn dilyn blwyddyn o densiynau.

Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd y datblygiadau hyn yn gwella’r berthynas rhwng y Gogledd a’r Unol Daleithiau.