Mae miloedd o bobol wedi gorymdeithio i ganol dinas Mosgo dair blynedd ar ôl i’r arweinydd gwleidyddol Boris Nemtsov gael ei saethu’n farw.
Cafodd ei ladd wrth gerdded ar bont ger y Kremlin ar Chwefror 27, 2015.
Roedd gorymdeithwyr yn cludo baner oedd yn dwyn y geiriau “Mae’r bwledi hyn ynom i gyd”.
Yn eu plith roedd dau ymgeisydd ar gyfer etholiad cyffredinol y wlad fis nesaf, Ksenia Sobchak a Grigory Yavlinsky.
Cafwyd aelod o luoedd arfog arweinydd Chechnya Ramzan Kadyrov yn euog o lofruddio Boris Nemtsov, a’i garcharu am ugain mlynedd.
Cafodd pedwar dyn arall ddedfrydau o 11 i 19 o flynyddoedd dan glo.