Mae’r cyflwynydd teledu Nick Knowles wedi lladd ar berfformiad y dyfarnwr o Gymru, Nigel Owens yn ystod gêm yr Alban yn erbyn Lloegr ym Murrayfield brynhawn ddoe.

Roedd sawl penderfyniad dadleuol yn ystod y gêm, wrth i’r Alban ennill o 25-13 i roi terfyn ar obeithion Lloegr o ennill y Gamp Lawn.

Ymhlith y feirniadaeth fwyaf llym roedd sylwadau gan y cyflwynydd teledu Nick Knowles.

Awgrymodd mewn un neges fod y dyfarnwr o Fynyddcerrig yn Sir Gâr “wedi ceisio dial am fuddugoliaeth Lloegr dros Gymru”.

Mewn neges arall, fe ddywed y cyflwynydd fod y penderfyniad i wrthod cais i Loegr am drosedd yn y cymal blaenorol yn “warthus”, gan anelu cyhuddiad uniongyrchol at y dyfarnwr fod ei “ragfarn wrth-Loegr yn rhy amlwg”.

Ac mewn neges arall, mae’n mynd mor bell ag awgrymu bod y dyfarnwr “wedi twyllo”.

Amddiffyn y dyfarnwr

Ond mae Nigel Owens wedi cael cefnogaeth o le annisgwyl – gan gyn-ganolwr Lloegr, Will Greenwood.

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd ei fod yn teimlo “embaras”, cyn ychwanegu bod “nifer o bethau i’w beio” am y canlyniad, ond “nid Nigel”.