Mae 17 o bobol wedi’u lladd ym Mozambique ar ôl i law trwm achosi i dwmpath sbwriel enfawr lithro.

Fe gafodd tua hanner dwsin o gartrefi eu dinistrio gan y llithriad sbwriel, ac mae’r awdurdodau’n credu bod rhagor o gyrff wedi’i claddu o dan y twmpath.

Yn ôl adroddiadau lleol, roedd y domen sbwriel yn ardal Hulene o’r brifddinas Maputo wedi tyfu nes bod mor uchel ag adeilad tri llawr.

Roedd gweithwyr iechyd wedi bod yn codi pryderon am y dymp sbwriel yn yr ardal boblog a thlawd gan boeni am effaith y mygdarth, y pryfed a’r peryglon eraill a oedd yn gysylltiedig â’r safle.

Bu’r awdurdodau lleol hefyd yn trafod y posibilrwydd o gau’r domen, er bod llawer o bobol leol yn chwilio trwyddi am bethau i’w gwerthu.