Mae Donald Trump wedi dweud y byddai “wrth ei fodd” yn dod i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n poeni am y posibilrwydd o brotestiadau gan rai sy’n gwrthwynebu ei bolisïau.

Daeth sylwadau Arlywydd yr Unol Daleithiau wrth i Downing Street gyhoeddi y byddai Donald Trump yn gwneud ei ymweliad cyntaf a’r DU fel Arlywydd yn ddiweddarach eleni.

Nid oes dyddiad wedi cael ei bennu ar gyfer yr ymweliad gwladol.

Mae gwrthwynebwyr yr Arlywydd, gan gynnwys Maer Llundain Sadiq Khan a’r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, eisoes wedi dweud na ddylai’r Arlywydd gael dod i’r DU ac mae disgwyl protestiadau mawr os yw’n dod yma.

Daeth ei sylwadau wrth gael ei holi gan Piers Morgan ar Good Morning Britain ar ITV.