Mae o leiaf 13 o bobol wedi’u hanafu wedi i ddwy roced – a gafodd eu tanio o Syria – daro mosg a thŷ yn Nhwrci.
Fe darodd y ddwy roced tref Kilis yn y prynhawn tra’r oedd y trigolion yn gweddïo â’r hwyr.
Cafodd wyth unigolyn eu niweidio y tu fewn i’r mosg – mae dau wedi’u niweidio’n ddifrifol – a chafodd pump unigolyn arall eu niweidio pan ffrwydrodd ail roced ger tŷ cyfagos.
Dyma’r ymosodiad roced diweddaraf ar Dwrci ers i’r wlad lansio ymgyrch filwrol yng ngogledd Syria yn erbyn milwyr Cwrdaidd.