Mae beth bynnag ddwsin o bobol wedi’u lladd, a 48 arall wedi’u hanafu, wedi i ddau hunanfomiwr ymosod ar farchnad yn ninas Maiduguri yng ngogledd Nigeria.

Fe darodd un ymosodwr y tu mewn i’r farchnad dan-do, tra bod y llall wedi ffrwydro ei ddyfais y tu allan, gan ladd dim ond ef ei hun.

Mae pennaeth y gwasanaethau achub yn dweud mai dynes oedd yr hunanfomiwr y tu mewn, ac mai dyn oedd yn weithredol y tu allan.

Mae Garej Muna, safle’r gwersyll ar gyfer pobol ddigartref, wedi bod yn darged nifer o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf gan wrthryfelwyr Boko Haram.