Mae Ethiopia yn gwahardd pobol dramor rhag mabwysiadu plant, yn sgil pryderon am achosion o gam-drin.
Fe ddaw’r penderfyniad wedi trafodaeth danllyd ymysg gwleidyddion ynglyn â’r prinder canolfannau gofal plant sydd yn y wlad i ddelio ag effeithiau’r gwaharddiad.
Mae Ethiopia ymhlith y gwledydd mwyaf poblogaidd yn yr Unol Daleithiau ar gyfer mabwysiadu.
Roedd yr awdurdodau yn America eisoes wedi rhybuddio bod Ethiopia yn bwriadu tynhau’r rheolau mabwysiadu, ond maen nhw hefyd yn bwriadu cynnal trafodaethau gyda’r wlad er mwyn “trafod y pryderon”.
Mae ‘Polisi Plant Cenedlaethol’ newydd Ethiopia yn nodi y dylai plant amddifad dyfu i fyny yn eu mamwlad, ac y dylai eu diwylliant a’u traddodiadau gael eu parchu.