Yn seremoni’r Golden Globes yn Los Angeles neithiwr yr helynt am achosion o aflonyddu rhywiol, sydd wedi siglo Hollywood i’w sail yn ystod y misoedd diwethaf, oedd yn hawlio’r sylw.
Roedd nifer o sêr yn gwisgo du fel arwydd o gefnogaeth i’r rheiny sydd wedi dioddef trais rhywiol, gyda nifer hefyd yn gwneud sylwadau am yr angen am gyfartaledd rhywedd.
Y actores, cynhyrchydd a chyflwynydd Oprah Winfrey a dderbyniodd gwobr anrhydeddus Cecil B DeMille, sef y ddynes groenddu gyntaf i ennill gwobr uchaf y Golden Globes.
Wrth iddi dderbyn y wobr, dywedodd ei bod hi’n medru gweld y dydd pan na fydd angen i ferched ddweud “fi hefyd” rhagor, gan gyfeirio at yr hashnod y bu merched yn eu defnyddio ar Twitter dros y misoedd diwethaf i ddweud eu bod nhw wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol yn Hollywood.
Actorion o wledydd Prydain
Fe lwyddodd yr actorion Gary Oldman ac Ewan McGregor, ynghyd â’r cyfarwyddwr ffilm, Martin McDonagh, i gipio gwobrau.
Enillodd Gary Oldman yr actor gorau am ei ran yn portreadu Winston Churchill yn y ffilm Darkest Hour; Ewan McGregor yr actor gorau am chwarae gefeilliaid yn y gyfres deledu, Fargo; ac fe enillodd ffilm Martin McDonagh sef Three Billboard Outside Ebbing, Missouri, gyfanswm o bedair gwobr yn y categori ffilm.