Tra bo’r rhelyw yn gorfod aros tan nos Sul i weld y bennod gyntaf o Craith, drama dditectif newydd S4C, fe gafodd criw o bobol weld y ddrama deledu neithiwr am ddim yn sinema canolfan Pontio ym Mangor.
Gyda rhai o olygfeydd y ddrama newydd, sydd wedi ei disgrifio fel Y Gwyll yn y gogledd, wedi eu ffilmio yn ninas Bangor, fe benderfynodd S4C gynnal premiere yno.
Daeth 174 i weld y bennod gyntaf o’r ddrama sy’n cael ei galw yn “gyfres iasol” gan y Sianel Gymraeg.
Roedd prif actorion Craith yno – Siân Reese-Williams sy’n adnabyddus am actio ‘Genesis Walker’ yn Emmerdale a Rhodri Meilir sy’n cael ei gofio am bortreadu ‘Rapsgaliwn’.
Y plot
Yn ôl S4C, mae Craith “yn adrodd hanes y Ditectif DI Cadi John (Siân Reese-Williams) sy’n dychwelyd i ogledd Cymru i ofalu am ei thad gwael ei iechyd. Fodd bynnag, pan mae corff merch ifanc yn cael ei ddarganfod mewn afon leol, daw’n amlwg bod creithiau’n llechu y tu ôl i olygfeydd godidog Eryri a’r ardal o’i hamgylch. Mae byd Cadi – a’r byd o’i chwmpas – yn cael ei newid am byth”.