Mae dau sgïwr o’r Almaen wedi marw yn dilyn cwymp eira mawr yn Alpau Awstria.
Cafodd y ddau, oedd yn 25 a 26 oed, eu claddu o dan yr eira ger Kals yn nhalaith Tyrol ddydd Gwener.
Llwyddodd timau achub i gyrraedd un o’r dynion rai oriau’n ddiweddarach, ond doedd dim modd ei achub.
Cafwyd hyd i gorff yr ail ddyn heddiw o dan troedfeddi o eira.