Mae cyn-Arlywydd yr Aifft, Mohamed Morsi ymhlith 19 o bobol sydd wedi’u carcharu am dair blynedd am sarhau barnwriaeth y wlad.
Cafodd ei symud o’i swydd gan y fyddin yn 2013 ar ôl blwyddyn wrth y llyw, ac fe fu yn y llys cyn hyn wedi’i gyhuddo o sbïo a chynllwynio gyda thramorwyr.
Cafodd yr ymgyrchydd asgell dde Alaa Abdel-Fattah a’r dadansoddwr gwleidyddol Amr Hamzawy ddirwy o 30,000 o bunnoedd yr Aifft yr un.
Mae Alaa Abdel-Fattah eisoes yn y carchar am ei ran mewn protest anghyfreithlon yn 2013, ac mae Amr Hamzawy eisoes yn alltud.
Mae disgwyl iddyn nhw apelio yn erbyn eu dedfrydau.
Mae miloedd o Islamyddion yn yr Aifft wedi cael eu carcharu ers 2013.