Mae cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Prydain, Nick Clegg wedi cael ei urddo’n farchog yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd y Frenhines.

Mae’r cyhoeddiad wedi ennyn dicter rhai pobol sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac fe gafodd ei feirniadu’n hallt rai blynyddoedd yn ôl ar ôl i’r Democratiaid Rhyddfrydol, o dan ei arweiniad, gefnu ar addewid i ddileu ffioedd dysgu myfyrwyr pan ddaethon nhw i rym fel rhan o lywodraeth glymblaid gyda’r Ceidwadwyr.

Mae’r Aelodau Seneddol Ceidwadol Graham Brady, Geoffrey Clifton-Brown a Christopher Chope hefyd wedi’u urddo’n farchogion, ynghyd â’r Aelodau Seneddol Llafur Mark Hendrick a Lindsay Hoyle, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Cyffredin.

Maen nhw wedi’u beirniadu gan gyn-arweinydd Ukip, Nigel Farage am dderbyn anrhydeddau am eu “gwasanaeth i’r sefydliad” a chan lefarydd Swyddfa Gabinet yr SNP am dderbyn “ffafrau gwleidyddol”.

Ymhlith y sêr o’r byd cerddoriaeth sydd hefyd wedi’u hurddo’n farchogion mae aelod o’r Beatles, Ringo Starr a chyd-sylfaenydd y Bee Gees, Barry Gibb.

Mae’r awdur Michael Morpurgo, oedd wedi ysgrifennu War Horse, hefyd wedi’i urddo’n farchog.

Mae’r ddawnswraig Darcy Bussell yn dod yn Fonesig.

Anrhydeddau eraill

Mae’r awdures Jilly Cooper, yr actor Hugh Laurie, cyn-olygydd Vogue Alexandra Shulman a’r cogydd Rick Stein yn mynd o fod yn OBE i fod yn CBE.

 

Mae’r canwr Marc Almond (Soft Cell) yn derbyn OBE, ynghyd â’r darlledwr Eamonn Holmes.

Ym myd chwaraeon, mae’r gricedwraig Heather Knight a hyfforddwr tîm merched Lloegr Mark Robinson ill dau yn erbyn OBE, a chyfarwyddwraig y tîm, Clare Connor yn derbyn CBE. Mae Tammy Beaumont ac Anya Shrubsole ill dau yn erbyn MBE. Roedden nhw i gyd yn allweddol i lwyddiant Lloegr wrth iddyn nhw ennill Cwpan y Byd.