Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi rhybuddio rhag defnyddio gwefannau cymdeithasol mewn ffordd sy’n rhannu pobol… ond mae wedi ymatal rhag enwi ei olynydd fel enghraifft o hynny.
Mewn cyfweliad ar raglen Today ar Radio 4 heddiw, fe lwyddodd Barack Obama i beidio â chrybwyll enw Donald Trump wrth drafod Twitter a Facebook fel llefydd sy’n gallu cael effaith negyddol ar fywydau pobol.
“Y prif gwestiwn, dw i’n meddwl, ydi sut allwn ni harneisio’r dechnoldeg mewn ffordd sy’n ein galluogi i glywed nifer o leisiau, sy’n caniatau amrywiaeth o bobol i fynegi barn, ond sy’n ddim yn ein rhannu ni,” meddai Barack Obama.
“Mae’n rhaid i ni geisio dod o hyd i fannau cyffredin, a gwerthoedd cyffredin, trwy hyn.
“Dw i ddim yn siwr os all yr un llywodraeth ddeddfu i’r cyfeiriad hwnnw,” meddai Barack Obama wedyn, “ond dw i’n credu bod gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb i ddod o hyd i ffyrdd o greu gofod cyffredin ar y rhyngrwyd.
“Un o beryglon mawr y rhyngrwyd ydi fod ‘realiti’ yn rhywbeth gwahanol iawn i bawb, oherwydd bod modd i ni lapio ein hunain mewn cocwn o wybodaeth sy’n hybu ein rhagfarnau ni’n hunain.”