Mae 28 o bobol wedi eu lladd a 26 wedi eu hanafu, wedi i dân losgi mewn adeilad wyth llawr yn Ne Corea.
Yn ôl awdurdodau dinas Jecheon – lle ddigwyddodd y tân – mae’n bosib bydd nifer y meirw yn codi wrth i dimau achub gynnal chwiliadau.
Er oedd disgwyl i daith ffagl Gemau Olympaidd y Gaeaf Pyeongchang ymlwybro trwy Jecheon, mae trefnwyr wedi dweud na fydd hyn yn digwydd bellach yn sgil y trychineb.
Dydy hi ddim yn glir beth wnaeth achosi’r tân, ond mae swyddogion yn amau ei fod wedi dechrau ym maes parcio’r adeilad.
Roedd sawl bwyty, campfa, bath cyhoeddus a safle golff dan do, yn yr adeilad.