Mae’r dyn sy’n cael ei amau o ymosodiad brawychol Finsbury Park ym mis Mehefin, wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau o lofruddiaeth a cheisio llofruddio.
Mae Darren Osborne, 48, wedi’i gyhuddo o yrru fan mewn i dorf o addolwyr ger Muslim Welfare House yng ngogledd Llundain.
Bu farw un dyn, Makram Ali, a chafodd 11 o bobol eu hanafu.
Ymddangosodd gerbron Old Bailey ar ffurf fideo o garchar Belmarsh, Llundain.
Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan ei dreial yn Llys y Goron Woolwich ar Ionawr 22.