Mae’r Cardinal Bernard Law, cyn-Archesgob Boston, wedi marw’n 86 oed yn Rhufain ar ôl salwch byr.
Ar ei anterth, roedd yn un o brif arweinwyr yr eglwys Americanaidd.
Ond yn 2002, fe ddaeth i’r amlwg ei fod e wedi celu manylion achosion lle’r oedd offeiriaid wedi bod yn camdrin plant ers blynyddoedd.
Pan gafodd y manylion eu cyhoeddi mewn papur newydd, fe ymddiheurodd gan addo y byddai’r eglwys yn cael ei diwygio.
Ond fe ddaeth rhagor o achosion i’r amlwg yn ddiweddarach ac fe ofynnodd Bernard Law am gael ymddiswyddo, ac fe gafodd sêl bendith y Pab.
Ers 1950, mae mwy na 6,500 o offeiriaid wedi’u cyhuddo o gamdrin plant, ac mae’r eglwys wedi talu mwy na 3 biliwn o ddoleri i setlo achosion y tu allan i’r llys.
Ffilm
Roedd ymddygiad Bernard Law yn destun ffilm, Spotlight, oedd yn adrodd hanes trosglwyddo’r offeiriad John Geoghan, oedd yn cael ei amau o gamdrin plant, i blwyf arall.
Yn y pen draw, roedd mwy na 130 o gyhuddiadau ei fod e wedi camdrin plant, ac fe dalodd yr eglwys fwy na 10 miliwn o ddoleri i setlo 86 o achosion.