Fe fu brwydro ffyrnig ger llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Libanus ar ôl i’r Arlywydd Donald Trump gydnabod Jerwsalam yn brifddinas Israel.
Defnyddiodd swyddogion diogelwch nwy dagrau a chwistrellydd dŵr i gadw protestwyr draw o’r adeilad yn y brifddinas, Beirut.
Mae’r Gynghrair Arabaidd wedi beirniadu cyhoeddiad Donald Trump, gan daflu amheuaeth ar allu’r wlad erbyn hyn i sicrhau heddwch yn y Dwyrain Canol.
Cafodd delw o’r Arlywydd ei llosgi yn ystod y protestiadau.
Mae Libanus yn gartref i gannoedd ar filoedd o ffoaduriaid o Balesteina oedd wedi ffoi yn dilyn gormes gan Israel.
Jerwsalem
Mae cyhoeddiad Donald Trump yn cael ei ystyried yn arwydd o gefnogaeth i Israel, sydd wedi cydnabod Jerwsalem yn brifddinas erioed.
Ond mae Palesteina’n cydnabod Dwyrain Jerwsalem yn brifddinas gwladwriaeth Palesteina’r dyfodol.
Yn ôl Donald Trump, dim ond “cydnabod realiti” oedd bwriad ei gyhoeddiad.