Mae Max Clifford, sydd dan glo am droseddau rhyw hanesyddol, wedi cael trawiad ar y galon.

Yn ôl ei ferch, mae’r dyn 74 oed a ddaeth i amlygrwydd fel arbenigwr ar gysylltiadau cyhoeddus i enwogion mewn cyflwr difrifol.

Fe gafodd ei daro’n wael yn y carchar yn Swydd Gaergrawnt, lle mae’n treulio wyth mlynedd am droseddau rhyw hanesyddol.

Yn ôl ei ferch, fe fu’n sâl ers dydd Iau ar ôl bod yn glanhau ei gell.

‘Dyletswydd’

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai fod “diogelwch a lles pobol yn y ddalfa yn brif flaenoriaeth gennym ac rydym yn cymryd ein dyletswydd i ofalu yn ddifrifol iawn”.

Ychwanegodd fod gan garcharorion fynediad i feddyg teulu a’r Gwasanaeth Iechyd.