Mae’r rhaid i Americanwyr fod yn ofalus i amddiffyn eu democratiaeth er mwyn gwneud yn siwr nad ydyn nhw’n mynd i lawr yr un llwybr ag y gwnaeth yr Almaen Natsïaidd yn y 1930au, meddai’r cyn-arlywydd Barack Obama.

Mewn araith yn Chicago, mae wedi rhybuddio Clwb Economaidd y ddinas honno “y bydd pethau’n syrthio’n ddarnau yn gyflym iawn” os nad yw’r Unol Daleithiau yn “tendio i ardd democratiaeth”.

Yn ystod ei anerchiad, fe gyfeiriodd hefyd at y modd y daeth Adolf Hitler i rym yn yr Almaen, ac fe ymbiliodd ar y gynulleidfa i “dalu sylw… a phleidleisio”.

Fe gymrodd Barack Obama hefyd y cyfle i amddiffyn y wasg a’r cyfryngau. Er eu bod, yn aml, yn ei “yrru’n wallgof”, meddai, mae’n gwbwl glir bod gwasg rydd yn hanfodol i unrhyw ddemocratiaeth.