Mae chwech o ferched wedi dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Harvey Weinstein, gan gyhuddo’r cynhyrchydd Hollywood o geisio cuddio ei gamymddwyn rhywiol honedig.
Mae’r achos wedi’i ddwyn mewn llys ffederal yn Efrog Newydd “ar ran dwsinau, os nad cannoedd” o ferched sy’n honni iddyn nhw ddiodde’ ymosodiadau rhyw dan law Harvey Weinstein.
Mae’r papurau cyfreithiol yn honni fod casgliad o gwmnïau a phobol bwerus oedd yn gwybod am y gamdriniaeth, wedi dod yn rhan o’r hyn sy’n cael ei alw’n “Weinstein Sexual Enterprise” a’u bod wedi gweithio gyda’r gwr busnes i guddio’r hyn oedd yn digwydd.
Mae cyfreithiwr Harvey Weinstein wedi gwrthod ymateb.
Yn ol y papurau cyfreithiol, fe gafodd actoresau a merched eraill o fewn y byd ffilm eu hudo i ddigwyddiadau, i ystafelloedd mewn gwestai, i gartref Harvey Weinstein ac i gyfarfodydd mewn swyddfeydd ac i glyweliad, dan yr argraff eu bod yn mynd yno i drafod gwaith.
Mae’r rheiny sy’n dwyn yr achos yn cynnwys y sgriptwraig a’r actores Louisette Geiss, ynghyd â’r actoresau Katherine Kendall, Zoe Brock, Sarah Ann Thomas, Melissa Sagemiller and Nanette Klatt.
Mae beth bynnag 75 o ferched wedi siarad â’r wasg am ymosodiadau rhyw, am harasio a chamymddwyn honedig gan Harvey Weinstein.